Tim sy’n arwain y tîm Rheilffyrdd a Geodechnegol yn Griffiths ac ef hefyd ydy Uwch Swyddog Gweithredol y cwmni sy’n gyfrifol am Gynghrair Craidd Llinellau’r Cymoedd gyda Thrafnidiaeth Cymru.
Mae’n siarad Cymraeg ac mae ganddo 30 mlynedd o brofiad gyda busnesau mawr cludiant, seilwaith, datblygu economaidd ac adeiladu ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y Deyrnas Unedig. Cyn ymuno â Griffiths yn 2019, bu Tim yn gweithio mewn rolau arweiniol yn First Group, Network Rail a Llywodraeth Cymru ac mae ganddo hanes o gyflawni rhaglenni gweithredol, gweithgareddau cynnal a chadw a phrosiectau adeiladu mawr yn llwyddiannus.
Mae ganddo brofiad o gydweithio â phartneriaid ac mae’n aelod o’r gynghrair rheilffordd gyntaf o’i math i gael tystysgrif ISO44001.
Mae Tim yn benderfynol o wneud gwir wahaniaeth o ran Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy’n cynnwys datblygu rhagor o fenywod i rolau rheng flaen ac arweinyddiaeth. Mae’n Llysgennad Tegwch, Cynhwysiant a Pharch ar ran y Cwmni a’r diwydiant adeiladu.