Wythnos diwethaf, fe wnaethon ni groesawu saith unigolyn dawnus a brwdfrydig i Griffiths fel rhan o Gynghrair Prentisiaethau Cymru. Fe gawson nhw gyfarfod ag aelodau’r Uwch Dîm Arwain a chael cyfle i glywed gan wahanol rannau o’r busnes.
Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr David Parr: “Pleser oedd cael treulio amser gyda’n recriwtiaid newydd a’u croesawu i Griffiths. Rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu ac yn ffynnu o fewn y busnes. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am hyrwyddo Cynghrair Prentisiaethau Cymru a’n helpu ni i ganfod ein hymgeiswyr eithriadol”.
Yn ymuno â’r Prentisiaid roedd Jake Turberville a Paul Williams, sydd ill dau wedi dilyn llwybr gyrfa tebyg a bellach yn dal swyddi uwch yn Griffiths. Dwy enghraifft wych o’r hyn y gall gyrfa yn Griffiths ei gyflawni.
Cadwch lygad wrth i ni ddilyn eu cynnydd a dathlu eu cyflawniadau!
#PrentisiaidCymru #Balch #CenhedlaethYDyfodol #TaithPrentisiaeth