PONT SABRINA CAERWRANGON YN ENNILL GWOBR FAWR PEIRIANNEG SIFIL

Sabrina bridge spanning river

Pont Sabrina, enillydd Prosiect Bach y Flwyddyn Sefydliad Peirianwyr Sifil (ICE) Gorllewin Canolbarth Lloegr

Mae Pont Sabrina yng Nghaerwrangon wedi ennill gwobr bwysig ym maes peirianneg sifil am y gwelliannau a wnaed fel rhan o’r gwaith adnewyddu mawr ar y bont.

Cyhoeddwyd mai’r bont oedd enillydd gwobr Prosiect Bach y Flwyddyn Sefydliad Peirianwyr Sifil (ICE) Gorllewin Canolbarth Lloegr, sef categori ar gyfer prosiectau sy’n costio hyd at £2 filiwn.

Cwblhawyd y gwaith adnewyddu mawr ym mis Mawrth 2021 ac roedd yn cynnwys cael fframwaith ddur cwbl newydd ar gyfer rhychwant y bont, dec cyfansawdd newydd sbon, ailbeintio’r canllawiau, y rampiau, y grisiau, a’r prif fast, a chyflwyno damperau i leihau symudiad y bont.

Dywedodd y Cynghorydd Alan Amos, Aelod Cabinet Cyngor Swydd Gaerwrangon sy’n gyfrifol am Briffyrdd a Chludiant:

Roedd hwn yn brosiect cymhleth ac mae’n wych gweld y gwaith caled a’r ymroddiad a aeth i mewn i’r gweithiau hyn yn cael eu cydnabod gyda’r wobr hon.

Mae defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r bont ac mae’n rhan bwysig o’r rhwydwaith seiclo a cherdded yn y ddinas ac rwy’n falch ein bod ni wedi gallu gwneud y newidiadau hyn i bawb gael eu mwynhau.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i Gyngor Swydd Caerwrangon ynghyd â phartneriaid y prosiect, Alun Griffiths Ltd, Jacobs a Briton yn y seremoni wobrwyo ddydd iau, 5ed Mai 2022.

Dywedodd Steve Tomkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Griffiths:

Mae’r wobr bwysig hon yn rhoi llwyfan i’r bartneriaeth lwyddiannus a ffurfiwyd rhwng Cyngor Swydd Gaerwrangon, Jacobs, Griffiths a’n cadwyn gyflenwi.

Disgrifiodd y beirniaid y prosiect fel a ganlyn:

Adeiledd eithriadol o gymhleth gyda risg ychwanegol o weithio dros ddŵr, wedi’i gyflawni mewn modd cydweithredol ac mae hyn yn welliant sylweddol i ddulliau cynaliadwy o symud o gwmpas Caerwrangon.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Pont Sabrina:

Roedd yn bleser cael derbyn gwobr enillwyr ICE Gorllewin Canolbarth Lloegr ar gyfer Prosiect Bach y Flwyddyn ar ran yr holl bobl a gydweithiodd ar y prosiect diddorol ac ychydig yn anarferol hwn.

Mae’r wobr yn cydnabod y datrysiad arloesol o ailddefnyddio ac uwchraddio’r bont bresennol yn rhannol, y cynllunio cymhleth a’r her oedd ynghlwm â chyflawni’r gwaith ar y safle, a gwaith tîm ardderchog y gwahanol bartïon a fu’n cydweithio’n agos.

Mae Gwobrau ICE Gorllewin Canolbarth Lloegr yn gyfle i ddathlu pob agwedd ar beirianneg sifil ac yn cael eu cyflwyno i’r prosiectau a’r bobl gorau ac i ymchwil sy’n torri tir newydd ledled ardal Birmingham, yr Ardal Ddu, Coventry, Swydd Henffordd, Swydd Amwythig, Solihull, Swydd Stafford, Swydd Warwick a Swydd Gaerwrangon.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y gwaith a gynhaliwyd fel rhan o brosiect adnewyddu mawr Pont Sabrina ar wefan y Cyngor Sir yn www.worcestershire.gov.uk/sabrinabridge

Explore our sectors