Pan fethodd ymdrech gynharach i adfer arglawdd ar lan Llyn Tegid, y Bala yng Nghymru fynd i’r afael â’r symudiad tir gwaelodol, darparodd Griffiths ddatrysiad sy’n cynnwys gosod, am y tro cyntaf yn y byd, System Fonitro Angor Clyfar a ddatblygwyd gan DYWIDAG Ltd. Mae’r system yn caniatáu i berfformiad yr ased gael ei oruchwylio o bell, gyda larwm yn rhoi rhybuddion cynnar.
Mae rhan ogleddol yr A494 yn un o’r cefn ffyrdd prysuraf yng Nghymru ac mae’n hanfodol i dwristiaeth ac economi leol Gwynedd.
Roedd erydiad sylweddol wedi gwanhau arglawdd sy’n cario rhan o’r ffordd ar hyd glan ogleddol Llyn Tegid. Yn 2008, cwblhawyd ymgyrch i adfer a diogelu’r arglawdd rhag difrod pellach, fodd bynnag, ar ddiwedd 2009 digwyddodd setliad tir, a chomisiynwyd arolygon gan Asiantaeth Cefn Ffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) i fonitro a chofnodi’r setliad.
Roedd y data a gofnodwyd yn dangos bod symudiad wedi parhau a oedd yn golygu bod rhaid ailadeiladu’r rhwystr atal cerbydau oedd ar hyd y rhan hon. Defnyddiwyd peirianwyr i archwilio achos y symudiad ac i ddarparu dyluniad manwl i sefydlogi’r arglawdd ar hyd y 180m cyfan.
Yn 2018, crëwyd llwybr hoelio pridd yn defnyddio hoelion pridd hunan ddrilio a lwyddodd, yn rhannol ond nid yn llwyr, i arafu symudiad y tir yn sylweddol. Fodd bynnag, erbyn dechrau 2020, gwelwyd bod y datrysiad hoelion pridd yn aneffeithiol wrth i sylfaen y rhwystr diogelwch barhau i waethygu.
Dywedodd Clive Bayley, Rheolwr Caffael a Chontractau NMWTRA “Ein pryder pennaf oedd uniondeb y system atal cerbydau; gosodwyd goleuadau traffig dros dro ar ochr ddeheuol y ffordd. O ganlyniad i bwysigrwydd yr A494, roeddem yn awyddus i ddod o hyd i ddatrysiad parhaol a fyddai’n caniatáu ail agor y ffordd cyn gynted â phosibl.
Comisiynodd Asiantaeth Cefn Ffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd, ar ran Llywodraeth Cymru, dan gytundeb ECI, i ddatblygu datrysiad. Gan weithio gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC) a DYWIDAG, ystyriwyd sawl dewis ar gyfer adfer yr arglawdd, ac roedd y datrysiad a ffafriwyd yn cynnwys wal gynnal/mat trwchus o goncrid cyfnerth wedi’i gynnal/angori dros oddeutu 75m o hyd, gyda physt angori wedi eu canoli 2m o’i gilydd a’u hymgorffori i’r sylfaen. Roedd y system atal cerbydau a’r rhwystr cerddwyr i gael eu cynnal gan y strwythur gyda’r briffordd a’r llwybr troed yn cael eu hailraddio a chael wyneb newydd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol cwmni Griffiths, Owain Thomas, “Bydd y datrysiad arfaethedig yn gwella ffactor diogelwch yr arglawdd, ac yn lleihau unrhyw symudiad tir a chraciau yn y briffordd a’r llwybr o ganlyniad i hynny, a bydd gan y dyluniad hyd bywyd o 120 o flynyddoedd.”
Y datrysiad arloesol oedd gosod wal gynnal goncrid gyfnerth ‘king post’, yn cael ei chynnal gan 36 angor daear, gyda 12 ohonynt yn rhai clyfar – y tro cyntaf yn y byd iddynt gael eu defnyddio.
Gan ddefnyddio synhwyrydd mesur grym unigryw, gellir monitro’r angorau clyfar o bell gyda data amser real yn cael ei drosglwyddo i system yn y cwmwl, gan ganiatáu i berfformiad yr asedau gael eu goruchwylio’n barhaus.
Gellir defnyddio’r data i wirio rhagolygon dylunio, i wella ansawdd modelu a darparu mewnwelediadau ar gyfer datrysiadau dylunio sydd wedi eu teilwra ymhellach.
Mae gan Lanycil y lefel nesaf o dechnoleg angor daear uwch gyda’r gallu i ddod o hyd i broblemau bychan cyn iddynt ddatblygu’n broblemau mawr, gan ganiatáu i adnoddau peirianneg ganolbwyntio ar gynnal a chadw ataliol.