Griffiths Scoop Three Constructing Excellence Wales Awards

Tair allan o dair oedd hi i Griffiths yn seremoni wobrwyo flynyddol Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) eleni. Yn ystod y dathliadau rhithwir, cipiodd ein Cynllun Lliniaru Llifogydd yn Llanberis y Wobr Gynaliadwyedd. Cafodd Trosbont Celtic Manor yr M4 ei chydnabod am Integreiddio a Chydweithio ac enillodd Ffordd Fynediad Ogleddol Sain Tathan wobr Project Sifil y Flwyddyn.

Cafodd Cynllun Lliniaru Llifogydd Llanberis i Gyngor Gwynedd ei gynllunio gan YGC ac mae wedi cynyddu’r lle sydd ar gael i’r llif o dan bont priffordd 300%, gan leihau lefelau dŵr yn uwch i fyny’r afon yn ystod digwyddiadau glaw trwm a lleihau’r risg o gael rhwystrau. Cafodd Cynllun Llwybr Diogel i’r Ysgol ei ymgorffori yn y prosiect hefyd ac roedd yn cynnwys pont droed newydd i gysylltu ag Ysgol Dolbadarn.

Mae Trosbont Celtic Manor yr M4 yn Darparu mynedfa newydd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor. Roedd ffurfio tîm prosiect integredig, yn cynnwys Griffiths, y Celtic Manor, Lewis & Lewis, AECOM, Curtins a Llywodraeth Cymru. Wedi creu argraff neilltuol ar y beirniaid. Trwy gydweithio rhagorol, llwyddwyd i godi’r bont i’w lle yn ystod yn cyfnod o feddiannu’r draffordd dros nos – gyda Chanolfan Rheoli Traffig Weithredol Traffig Cymru, SWTRA, Traffig Cymru, yr Heddlu a’r gwasanaethau brys, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Dinas Casnewydd oll yn rhan o’r trefniadau. O ganlyniad i’r dull cydweithredol hwn o weithio, cynhaliwyd nifer o weithrediadau ychwanegol yn ystod cyfnod cau’r ffordd, gan arbed dros £100k i SWTRA mewn gwaith cynnal a chadw yn unig petaent wedi eu cynnal ar wahân.

Fodd bynnag, y Ffordd Fynediad Ogleddol gwerth £15m a gipiodd Wobr Prosiect Sifil y Flwyddyn. Agorodd y prosiect, a gafodd ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, ar 30ain Medi 2019 ac mae’n gweithredu fel dolen economaidd bwysig, gan alluogi mewnfuddsoddi ac annog datblygiadau yn y dyfodol ym Mharc Busnes Bro Tathan – sydd eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau pwysig, gan gynnwys Aston Martin Lagoda, eCube Solutions a Bristow Helicopters.

Wrth adeiladu’r ffordd, crëwyd darpariaeth teithio llesol sylweddol yn ogystal â manteision o ran bioamrywiaeth. Mae cynllun goleuo wedi’i deilwra a gynlluniwyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru wedi’i osod er mwyn lliniaru’r effaith ar bathewod ac ystlumod, ac yn sgil ymgynghori ag arbenigwr ar ecoleg pysgod, cynlluniwyd cwlfert unigryw i hwyluso symudiadau pysgod drwy eu cynefinoedd.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Mae Bro Tathan yn rhan bwysig o seilwaith economaidd Cymru ac mae’r ffordd hon yn darparu mynediad yr oedd mawr ei hangen i’r holl gyfleoedd a ddaw yn ei sgil.

Mae heriau ynghlwm â phob prosiect adeiladu, ac yn yr achos hwn, wynebwyd yr heriau hynny gydag arloesedd a chreadigrwydd aruthrol. Hoffwn i ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect am eu gwaith caled ac rwy’n falch eu bod wedi derbyn cydnabyddiaeth trwy’r wobr gwbl haeddiannol hon.

Dywedodd Ian Thomas, Rheolwr y Prosiect ar ran Alun Griffiths:

Rydym wrth ein boddau yn derbyn canmoliaeth am ein rhan yn cyflawni Ffordd Fynediad Ogleddol Sain Tathan. Roedd hi wir yn bleser cael bod yn rhan o ethos un tîm oedd â chydweithio ac arloesi yn werthoedd craidd, gan sicrhau bod pob aelod o’r tîm yn ymroi i oresgyn yr heriau a wynebwyd.

Explore our sectors