Mae Griffiths wrth eu bodd eu bod wedi ennill Gwobr y Gymraeg a Diwylliant Cymru yn y Gwobrau Gwerth Cymdeithasol i Genedlaethau’r Dyfodol a gynhaliwyd yn ystod cyflwyniad rhithwyr ddoe.
Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad parhaus Griffiths i hyrwyddo’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Dangoswyd yr ymrwymiad hwn pan aethom ati i ail-lansio menter a gyflwynwyd yn wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol 2017, sef arddangos y logo ‘Iaith Gwaith’ oren ar hetiau caled ein staff Cymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Cafodd llwyddiant ein menter ei ysgogi gan ein Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg, sef grŵp ffocws a ffurfiwyd yn dilyn apêl yn gofyn i staff Cymraeg gynnig cymorth ac arweiniad yn ymwneud â defnydd priodol o’r Gymraeg. Amcan allweddol y Grŵp Ffocws oedd gwireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn arbennig y nod llesiant sy’n ymwneud â chael ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae’r grŵp hefyd wedi datblygu’r modd y defnyddir y logo ‘Iaith Gwaith’ yn llofnodion e-bost yr holl staff Cymraeg sy’n gweithio mewn swyddfeydd.
Caiff y logo ‘Iaith Gwaith’, a ddatblygwyd gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ei gydnabod yn eang fel ffordd o ddangos bod unigolyn yn siarad Cymraeg, a chaiff ei ystyried fel ffordd syml o annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, nid yn unig yn y gweithle ond hefyd wrth ddelio ag aelodau o’r cyhoedd y mae ein gwaith yn effeithio arnyn nhw.
Yn ôl Stephen Tomkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Griffiths:
Fel Cwmni, credwn yn gryf yn y manteision a’r gwerth sydd ynghlwm wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Yn ogystal â hyrwyddo’r iaith ymhlith ein gweithlu, mae hefyd yn ein helpu i ddod yn fwy cynrychiadol o’r cymunedau Cymreig y gweithiwn ynddyn nhw, a dangos ein hymrwymiad i sicrhau gwlad ‘lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’, sef agwedd y cyfeirir ati yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn parhau i hyrwyddo’r arfer o ddefnyddio’r logo ‘Iaith Gwaith’ ar ein hetiau caled, ac eisoes rydym wedi gweld y dylanwad cadarnhaol a gaiff y logos hyn o ran annog y cyhoedd i siarad Cymraeg gyda’n timau Safleoedd.