Mae prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru wedi llwyddo i ddatrys problem llifogydd di-baid ac ennill gwobr genedlaethol wrth wneud hynny.
Mae prosiect atal llifogydd Mill Lane newydd ennill gwobr anrhydeddus ICE Cymru 2022, sef Gwobr Roy Edwards, am yr enghraifft orau o brosiect dylunio ac adeiladu eithriadol sydd wedi costio llai na £5miliwn.
Cyflwynir Gwobrau Blynyddol ICE (Institution of Civil Engineers) Wales Cymru i gynlluniau peirianneg sifil gorau’r wlad.
Cyflwynir Gwobrau ICE (Sefydliad y Peirianwyr Sifil) Cymru i brosiectau peirianneg sifil gorau’r wlad.
Dros y blynyddoedd bu’n rhaid cyflwyno ymyraethau dro ar ôl tro yn ardal Mill Lane, Biwmares er mwyn ceisio gwarchod eiddo rhag llifogydd. Ond parhau gwnaeth y digwyddiadau hyn a’r difrod a ddaeth yn eu sgil hyd nes i Gyngor Sir Ynys Môn ddatblygu prosiect cwbl arloesol a chost effeithiol i leihau’r broblem.
Penodwyd WaterCo o ardal Rhuthun fel ymgynghorwyr dylunio arbenigol ac Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf i adeiladu’r sgrin arloesol. Dyma’r tro cyntaf i ddatrysiad o’r fath gael ei ddefnyddio mewn amgylchedd trefol yng Nghymru.
Mae Shaun Wasik, Uwch Ymgynghorydd Reoli Perygl Llifogydd WaterCo, yn egluro, “Mae’r dyluniad yn cynnwys sgrin hunanlanhau awtomatig â thair haen ychwanegol o wydnwch, sef sgrin osgoi, gorlif lefel canolig yn ôl i wely’r afon a gorlif ychwanegol sy’n defnyddio system draenio dŵr wyneb y ffordd gyfagos.
Mae’r dyluniad newydd yn golygu cyn lleied â phosibl o waith cynnal a chadw ac felly’n lleihau’r peryglon iechyd a diogelwch sylweddol y byddai gweithwyr y Cyngor yn eu hwynebu gan eu bod yn arfer gorfod glanhau’r sgrin â llaw yn ystod llifogydd cyn i’r sgrin newydd ddod yn weithredol.”
Gan ddefnyddio’r Contract NEC3 a oedd eisoes ar waith rhwng y Cyngor Sir ac Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf, llwyddodd y tîm i fynd ati ar unwaith i weithio’n agored ac ar y cyd i adeiladu’r sgrin newydd a gwaith cysylltiedig yn ystod haf 2021.
Dywedodd Rowland Thomas, Peiriannydd Grŵp Gwasanaeth Priffyrdd Cyngor Ynys Môn, “Dyma brosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae gennym lawer i’w ddysgu o hyd am y math yma o waith, ond wrth i ni ennill mwy o brofiad, rydym yn gobeithio gallu rhannu’r hyn yr ydym ni wedi’i ddysgu er budd lleoliadau eraill ledled Cymru sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd.”
“Gwerth y prosiect oedd £250,000. Mae’n fuddsoddiad hynod gost-effeithiol, a fydd yn sicrhau manteision sylweddol i’r amgylchedd, a lleihau costau refeniw’r Cyngor yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, deilydd portffolio Priffyrdd Ynys Môn, “Gyda newid hinsawdd a digwyddiadau yn gysylltiedig â thywydd eithafol yn fygythiad cynyddol, mae’n hanfodol ein bod ni’n gallu amddiffyn cymunedau rhag llifogydd. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid ar ddatrysiadau arloesol, fel y cynllun llwyddiannus hwn yn Mill Lane, i helpu i leihau’r risg o lifogydd.”
Dywedodd Owain Thomas, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Griffiths Cyf, “Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr nodedig hon sy’n cydnabod nad oes rhaid i brosiectau arloesol gostio ffortiwn ac sydd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd parhau i reoli’r perygl o lifogydd wrth i’r hinsawdd newid yn barhaus. Mae pawb yn Griffiths Cyf yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r gwaith o gyflwyno’r sgrin arloesol hwn i Gymru.”
Gwyliwch y fideo byr hwn i gael trosolwg o’r prosiect.