Cyflwynir Gwobr Bill Ward i’r prosiect sy’n arddangos egwyddorion cynaliadwyedd yn y ffordd orau bosib, h.y., buddion cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol yn ystod y ddarpariaeth ac ar ôl cwblhau.
Penodwyd Atkins yn 2020 gan Gyngor Sir Gâr i ymgymryd ag arolwg cyflwr a chreu strategaeth waith i ddiogelu’r 3 porthladd hanesyddol rhestredig. Penodwyd Griffiths fel y Prif Gontractwr i ymgymryd â’r gwaith.
Mae’r 3 porthladd yn cynnwys 1500m o waliau a rhagfuriau fertigol carreg, sydd wedi’u gadael i adfeilio a syrthio ers eu hoes aur yn cludo glo yn y 1800au.
Gweithiodd timau cwbl gyfunedig Griffiths ac Atkins law yn llaw â’r Cyngor i ddarparu’r cynllun i gyllideb benodol, o fewn rhaglen at foddhad llwyr Cadw, y ceidwaid porthladdoedd hanesyddol.
Dywedodd Derek Finn, Cyfarwyddwr Prosiect Atkins Consultants “Gyda gwaith cadwraeth porthladdoedd, ni fyddwch yn gwybod beth fydd yn cael ei ddatgelu hyd nes i chi dynnu’r waliau i lawr a gweld cyflwr llawn yr atgyweiriadau angenrheidiol.
“Paratôdd Atkins lawlyfr o ddatrysiadau atgyweirio sympathetig yr oedd modd cyfeirio atynt yn ôl y cyflyrau penodol a ganfuwyd. Golyga hyn y gallai’r tîm safle reoli’n ddiwyd yr amrywiaethau sy’n digwydd yn ddyddiol bron mewn technegau atgyweirio.
“Roedd yn anhygoel bod y naw mis o waith adeiladu wedi digwydd yn ystod cyfnodau clo COVID19 gyda 2m o bellter cymdeithasol wedi ei gynnal ar y safle. Os nad oedd modd i ni gael y deunyddiau wedi cael eu danfon ar amser, roeddem yn amrywio’r cynllun er mwyn i’r tîm safle barhau i weithio.”
Mae’r prosiect wedi diogelu’r deunydd maen hanesyddol ar gyfer cymunedau ac ymwelwyr, wrth ddarparu porthladd diogel i gychod y marina. Mae’n gychwyn hefyd ar ddatblygiad tir blaen glannau’r dŵr ar gyfer gweledigaeth y Cyngor i drawsnewid y porthladd yn hwb gwaith, hamdden a byw deinamig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Gareth Jones: “Rydym yn falch iawn bod Porthladd Porth Tywyn wedi ennill y wobr gynaliadwyedd Bill Ward ICE Cymru nodedig gan fod hyn yn adlewyrchu maint a chymhlethdod y prosiect. Aeth y tîm ymlaen gyda’r gwaith hwn yn ystod pandemig COVID-19 ac roedd yr amgylchiadau’n heriol iawn, fodd bynnag, roeddem ar ben ein digon pan gwblhawyd y gwaith ar amser ac o fewn y gyllideb.”
Yn ôl Leighton Rees, Rheolwr Prosiect Griffiths, “Roedd hi’n fraint cael gweithio ar y prosiect hwn, rhoddodd y gwaith o atgyweirio treftadaeth Porth Tywyn i genedlaethau’r dyfodol ymdeimlad o falchder i’r tîm cyfan, mewn cyfnod pan roedd cymaint o ansefydlogrwydd yn y byd.”
Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu rhagor am brosiect Porth Tywyn.