PEIRIANNEG CYNALIADWY

EIN STRATEGAETH

Mae Strategaeth Cynaliadwyedd Griffiths yn daith barhaus, nid yn gyrchfan penodol. Mae’n llywio ein gweithredoedd yng nghanol pryderon fel diogelwch ynni, prinder adnoddau a lles cymunedol yn ystod yr argyfwng hinsawdd.

Ym maes adeiladu, ‘r ydym yn gweld cyfle am newid cadarnhaol a chofleidio ein cyfrifoldeb. Gyda sefydlogrwydd ariannol a thechnoleg,  ymrwymwn i addasu arferion a gweithredu syniadau arloesol, er budd defnyddwyr terfynol, cymunedau a’n tîm ar pob prosiect.

Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy fod :

  • Yn Bartner Dibynadwy
  • Yn Ariannol Sefydlog
  • Yn Dechnolegol Alluog

EIN TAITH I ZERO

Byddwn yn gweithredu strategaeth sy’n cyflawni, ar gyfer ein cwsmeriaid, ein busnes a chenedlaethau’r dyfodol. Sefydlai’r strategaeth hon ein hymrwymiad i beiriannu seilwaith i gefnogi economi fywiog, ein pobl a’n cymunedau heb effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Mae’n allweddol bod ein strategaeth i’w arddangos drwy’n gweithredoedd, gyda’n dulliau yn cael eu gyrru gan ddata ac yn fesuradwy.

Gweler ein strategaeth gynaliadwy 2030
EIN TAITH I ZERO

NEGES GAN EIN RG

O ran cynaliadwyedd, mae angen i bawb gamu i fyny. Mae hynny’n cynnwys sefydliadau megis un ni. Yng Ngriffiths, ‘gwelwn ein cyfrifoldeb ni fel un i herio stereoteip y diwydiant ac yn gyfle i ni arwain y ffordd. Dyna pam yr wyf i a tîm Griffiths gyfan wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol, drwy datrysiadau a wnaiff wahaniaeth diriaethol ar bob prosiect ac ar bob safle.

David Parr, Rheolwr Gyfarwyddwr, Griffiths

PARTNER YMDDIRIEDOL

Amlygai ymchwil fod cyd-ddatrys problemau yn arwain at ganlyniadau gwell. ‘R ydym yn falch o’n ffordd o weithio gan adeiladu partneriaethau cydweithredol, hir dymor drwy rhagweithio i gyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae bod yn rhan o Grŵp CRH yn rhoi mynediad i ni at gyfoeth o brofiad ac adnoddau cenedlaethol a rhyngwladol.

Simon Dunn, PCyfarwyddwr Cyn-Adeiladu, Griffiths

YN ARIANNOL SEFYDLOG

‘R ydym yn gweithio ar draws y busnes i ddefnyddio pŵer pob punt a wariwn i wneud y mwyaf o’r cyfraniadau gallwn eu trosglwyddo o’n prosiectau i werth cymdeithasol, gan gyflawni prosiectau heb unrhyw ddigwyddiadau yn ogystal a chael effeithiau amgylcheddol cadarnhaol.

Ioan Roberts, Cyfarwyddwr Masnachol – Isadeiledd, Griffiths

YN ARIANNOL SEFYDLOG

TECHNOLEG WEDI'I ALLUOGI

Mae’r offer digidol cyfeiriwn atynt yn meithrin arloesedd a chydweithrediad. ‘R ydym yn defnyddio datrysiadau digidol i fesur a monitro cynnydd o ran ein cynaliadwyedd. Sicrha hyn fod ein defnydd o’n hadnoddau yn effeithlon, yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn hyrwyddo economi cylchiol.

Jack Whitney, Rheolwr TG, Griffiths